Rheilffordd Fach Y Rhyl – Cymraeg

Agorwyd lein yn Y Rhyl yn 1911, a hi bellach yw’r lein fach hynaf ym Mhrydain. Bu llawer o’r teithwyr sydd yn teithio arni heddiw, yn teithio arni pan oeddent yn blant ac maent erbyn hyn yn dod a’r genhedlaeth nesaf i rannu’r profiad. Adeiladwyd ein trenau stêm yn Y Rhyl a maent wedi bod yn cludo teithwyr o gympas y Marine Lake ers wyth deg o flynyddoedd!

Gall ymwelwyr heddiw fwynhau cyfleusterau adeilad newydd yr “Orsaf Ganolog’, a dysgu am hanes y rheilffordd o’n cyflwyniad clyweled. Mae’r amgueddfa, siop a thoiledau ar agor bob dydd y mae’r trenau yn rhedeg.

Perchennog y rheilffordd yw Ymddiriedolaeth Cadwraeth Stêm Y Rhyl, sy’n elusen gofrestredig. Mae arnom bob amser angen gwirfoddolwyr newydd. Gofynnwch am ein mudiad “Cyfeillion” neu Ffoniwch (01745) 339477 am fanylion.

Gall cefnogwyr ymuno â ‘Chyfeillion Rheilffordd Fach Y Rhyl’ am gyn lleied â £7.50 y flwyddyn.

gorsaf_canalogMae’r rheilffordd ar agor o 11am (neu’n gynharach) hyd 4pm (neu’n hwyrach) bob dydd Sadwrn a dydd Sul o’r Pasg hyd ddiwed mis Medi, a hefyd ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc, ac yn ddyddiol yn ystod Gwyliau Ysgol yr Haf.

Bydd trenau stêm bob amser yn rhedeg ar ddiwrnodau brig, gan gynnwys bob dydd Sul, ac ar dydd Iau a dydd Sadwrn yn ystod gwyliau’r haf.

Ar dyddiau eraill cynigiwn reidau yn ein rheilgar trydan neu drên disel.

Prisiau trên: £2.50 i oedolion, £1.50 i blant (2-14)

Ymholiadau am yr amserlen: Teliffôn (01352) 759109

Home

0
    0
    Your Cart
    Your cart is emptyReturn to Shop Page